SL(5)322 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 2 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (gosod ffioedd o dan Ran 5 o’r Ddeddf) fel a ganlyn:

-      cynnydd yn yr uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl o £80 i £90;

-      cynnydd yn y terfyn cyfalaf perthnasol am ofal preswyl o £40,000 i £50,000;

-      cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal o £28.50 i £29.50.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 4 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (cyfraniadau ac ad-daliadau am daliadau uniongyrchol) fel a ganlyn:

-      cynnydd yn yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl o £80 i £90;

-      cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal ac sy’n cael taliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf o £28.50 i £29.50.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

-      mae taliadau a wneir o dan neu gan ymddiriedolaeth a sefydlwyd at ddiben rhoi rhyddhad a chynhorthwy i bobl anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, i’w hanwybyddu wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

 

Nodwn, yn arbennig, ddau newid a wneir gan y Rheoliadau hyn, fel y'u disgrifir yn y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau:

-      cynnydd yn uchafswm y ffi wythnosol y gellir ei gosod am ofal a chymorth amhreswyl o £80 i £90, a’r uchafswm cyfraniadau ac ad-daliadau wythnosol am gael y taliadau uniongyrchol i sicrhau’r ddarpariaeth honno... Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau, pan fo awdurdod lleol yn defnyddio ei ddisgresiwn i osod ffi ar berson ar gyfer y gofal a'r cymorth amhreswyl a gânt, neu'r cymorth amhreswyl y mae gofalwr yn ei gael, mae’r uchafswm y gall yr awdurdod lleol ei godi yn gyson.  Yn yr un modd, pan fo awdurdod lleol yn defnyddio ei ddisgresiwn i bennu cyfraniad neu ad-daliad am dderbyn taliadau uniongyrchol i sicrhau gofal a chymorth amhreswyl, mae uchafswm cyson y gall yr awdurdod lleol ei godi ar eu cyfer;

-      cynnydd yn y terfyn cyfalaf perthnasol am ofal preswyl o £40,000 i £50,000... Gwneir hyn i weithredu'r trydydd cam, sef y cam olaf, ar gyfer cyflawni ymrwymiad allweddol yn rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen’ Llywodraeth Cymru i roi terfyn cyfalaf o £50,000 o ran codi tâl am ofal preswyl erbyn diwedd y tymor cyfredol.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

15 Chwefror 2019